Aeth staff Griffiths i faes awyr Caernarfon yn ddiweddar i drosglwyddo rhodd i Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn ôl ym mis Rhagfyr 2021, galwyd yr Ambiwlans Awyr i fynychu digwyddiad ar ein prosiect Tai’r Meibion ar yr A55 yn Abergwyngregyn. Ar ôl bod yn dyst i waith gwych yr Ambiwlans Awyr, penderfynodd Pwyllgor Achosion Da’r safle, sy’n cynnwys cynrychiolwyr ar draws ein holl adrannau ar y safle, eu cefnogi drwy godi arian.
Yn dilyn adborth gan y gymuned leol, trefnwyd bod bylbiau cennin Pedr gan y tîm ar gael i’r cyhoedd fel rhodd, gydag eraill yn cael eu rhoi i sefydliadau cymunedol lleol. Wedi codi cyfanswm o £310, llwyddodd dau o’r Pwyllgor i drosglwyddo’r siec i griw Helimed 61, a oedd wrth eu bodd yn eu tywys o amgylch yr hofrennydd a disgrifio nodweddion penodol iawn yr awyren.
“Mae codi arian yn hollbwysig i’n galluogi i barhau â’n gwasanaeth gofal arbenigol” meddai Alwyn Jones, Codwr Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru. “Rydym wrth ein bodd bod y staff yn Griffiths wedi bod mor rhagweithiol yn codi’r arian hwn, ac yn falch bod y staff a ymwelodd â ni wedi cael y cyfle i gyfarfod â’r criw hedfan a chael taith agos o amgylch yr hofrennydd.”