Ar Ddydd Sadwrn 9fed Ebrill 2022, cynhaliwyd cyngerdd i godi arian i’r Wcráin ar Faes Sioe Môn. Rhoddodd artistiaid a chriwiau cymorth amrywiol o Gymru eu hamser am ddim, a gwerthwyd pob un o’r 2,000 o docynnau gyda swm sylweddol o arian wedi’i godi.
Dywedodd Huw Percy, Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn: “Roedd yn fraint ac yn galonogol iawn gweld staff Griffiths yn cynorthwyo mor effeithiol gyda dyletswyddau rheoli traffig, a heb eu harbenigedd a’u hymrwymiad ni allai’r digwyddiad fod wedi cael ei gynnal ac ni fyddai wedi bod yn gymaint o lwyddiant.
“Ar ran y Cyngor a threfnwyr y digwyddiad, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr iawn i chi am ddarparu cerbydau ac offer yn rhad ac am ddim i bedwar gweithiwr cymwys ac am eich cefnogaeth i achos mor dda.”