Cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Arberth y cyfle yn ddiweddar i greu arwydd diogelwch ffyrdd i annog gyrru mwy diogel o fewn cynllun gwella’r A40.
Daeth dysgwyr Blwyddyn 4 a 5 i safle adeiladu gwelliannau’r A40 yn gynharach eleni i ddysgu am adeiladu ac archeoleg. Ar ôl eu hymweliad, fe wnaethant dderbyn yr her i helpu i ddiogelu’r rhai sy’n gweithio ac yn gyrru trwy’r cynllun trwy greu eu harwyddion diogelwch eu hunain.
Fe wnaeth Griffiths, sef y prif gontractwr ar gyfer dylunio ac adeiladu’r llwybr 6 cilomedr, adolygu’r cynigion a dewis pump o’u ffefrynnau, a gafodd eu trosglwyddo wedyn yn arwyddion mawr a fydd yn cael eu gosod mewn gwahanol fannau ar hyd y cynllun rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross.
Fel gwobr, yn ddiweddar gwahoddwyd Ysgol Arberth yn ôl i swyddfa prosiect yr A40 ar gyfer dadorchuddio’r cynigion buddugol ac i’r artistiaid weld eu harwyddion ffordd orffenedig.
Ychwanegodd Andrew Davies, Rheolwr Prosiect y cynllun:
“Mae’r terfynau cyflymder a chyfyngiadau dim goddiweddyd yn bwysig i’r cynllun oherwydd natur beryglus yr A40, gyda cherbydau a gweithwyr yn croesi’r ffyrdd gweithredol yn rheolaidd. Mae cynyddu diogelwch ar y ffyrdd wedi’i bwysleisio ymhellach gan nifer y digwyddiadau yr ydym wedi’u profi gyda’n gweithlu sydd wedi’u lleoli ar y ffordd neu’n agos ati.
Daw risgiau cynhenid i adeiladu A40 newydd ac mae’n hanfodol bod modurwyr yn meddwl am y rhain wrth deithio drwy’r ardaloedd gwaith. Roeddem am dynnu sylw at y neges i fodurwyr arafu ac rydym yn ddiolchgar iawn am y creadigrwydd a’r cyfraniad a ddangoswyd gan ddisgyblion Ysgol CP Arberth, a gobeithiwn y byddant yn falch o’u gwaith i helpu i hyrwyddo diogelwch ffyrdd i’n gweithwyr ac i’r modurwyr sy’n defnyddio’r ffordd hon”.
Tra ar y safle, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am ddiweddariadau ar y cynllun a mwynhau rhai o’r peiriannau mawr a cherbydau gwaith sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.
Ychwanegodd Maria Cox, athrawes yn Ysgol CP Arberth:
“Hoffem ddiolch i Griffiths am roi cyfle i’r plant fod yn rhan o’r prosiect ac i ddysgu beth sy’n mynd i mewn i gynllun o’r maint hwn. Roedd ein disgyblion yn hynod o hapus i allu bod yn rhan o wella diogelwch ffyrdd a gobeithiwn barhau i ddysgu am y cynllun wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”
Mae tîm y prosiect yn annog modurwyr i gadw llygad am yr arwyddion sydd newydd eu gosod ar hyd yr A40 ac i gymryd sylw o’u negeseuon diogelwch.
Bydd y cynllun gwelliannau yn parhau i gefnogi addysg gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg i fyfyrwyr cynradd, uwchradd, ac addysg uwch drwy gydol y prosiect gyda phwyslais ar ddysgu am y pynciau hyn o fewn prosiect byd go iawn.