Mae tîm Ieuenctid Clwb Rygbi Pwllheli wedi gorffen y tymor yn uchelgeisiol ar ôl derbyn nawdd gan Griffiths.
Dywedodd Rhys Evans, Hyfforddwr y Tîm Ieuenctid: “Roedd wir angen cit newydd ar y tîm, gan fod yr hen un yn dechrau malu. Wedi chwilio am noddwr blaenllaw, roeddem wrth ein bodd bod Griffiths yn hapus iawn i dderbyn hyn, mae’r cit yn edrych yn wych ac mae wedi rhoi hwb mawr i’r tîm.
Gyda’r tymor wedi dod i ben fe orffennodd Ieuenctid Pwllheli yn ail yn y tabl, dim ond un pwynt tu ôl i’r tîm buddugol. Rydym ni braidd yn siomedig i orffen yn ail gyda dim ond gwahaniaetho un pwynt, yn enwedig gan ein bod ni wedi curo’r tîm buddugol, ond mae gennym ni sylfaen gref iawn i adeiladu arno ar gyfer y tymor nesaf.
Fodd bynnag, mae gennym daith fach o amgylch Iwerddon ymhen pythefnos, a byddwn yn falch o chwifio baner Griffiths ar Ynys Emerald!”