Bydd adeiladu’r Bont Dyfi newydd sydd wedi’i leoli ar yr A487 ger Machynlleth, yn gwella diogelwch y ffordd, yn cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau, yn darparu cyfleoedd teithio llesol ac yn adeiladu gwytnwch rhag llifogydd. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect hefyd yn gwella cysylltedd trafnidiaeth i helpu i ysgogi rhagor o ddatblygiad economaidd yng nghanolbarth Cymru.
Mae Griffiths wedi llwyddo i wneud cynnydd gyda’r cynllun drwy’r cam Ymwneud Cynnar gan Gontractwr, ar ôl cael eu dyfarnu â’r contract yn 2015.
Mae’r gwaith yn cynnwys traphont newydd ar draws y gorlifdir a phont afon newydd dros Afon Dyfi, oddeutu 480m i fyny’r afon o’r bont bwa maen gyfredol. Mae’r bont gyfredol o’r 19eg ganrif yn cael ei chau’n aml oherwydd llifogydd, ac mae hyn yn debygol o ddigwydd yn amlach gydag effaith newid hinsawdd.
Gall cau’r adran hon o’r A487 effeithio ar allu’r gymuned i geisio gwasanaethau allweddol, megis gofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus ym Machynlleth a thu hwnt. Bydd y bont newydd yn rhoi llwybr diogel a dibynadwy rhwng cymunedau.
Bydd cael gwared ar draffig ar raddfa fawr oddi ar bont y 19eg ganrif a darparu llwybr cerdded a beicio yn gwella cyfleoedd teithio llesol, gan wella atyniad Machynlleth a’r cyffiniau fel cyrchfan i dwristiaeth.
Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys tawelu traffig a gwella draeniau ar yr A493 yn syth i’r gogledd o’r bont i warchod y bythynnod sydd yno eisoes. Yn ogystal, bydd bwnd rhag llifogydd yn cael ei adeiladu i warchod Parc Eco Dyfi rhag llifogydd o’r afon.
Yn ogystal â bod yn llwybr allweddol rhwng gogledd a de Cymru, mae’r A487 yn gyswllt pwysig rhwng cymunedau lleol. Yn rhy aml mae’r cymunedau hyn yn cael eu hynysu oherwydd llifogydd ym Mhont Dyfi.
Bydd y bont newydd hefyd yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dibynadwy, gan ganiatáu i bobl fyndiad at wasanathau pwysig ym Machynlleth a thu hwnt. Bydd y bont faen restredig o’r 19eg ganrif gyfredol yn parhau i fod yn ased pwysig i’r ardal fel llwybr teithio llesol yn ardal hyfryd Dyffryn Dyfi, gan fod o fudd I bobl lleol ac ymwelwyr.
Bydd yr isadeiledd hanfodol hwn hefyd yn cyd-fynd â’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi Bargen Twf canolbarth Cymru i ddatblygu cyfleoedd economaidd newydd yn y rhan bwysig hon o Gymru.