- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Gwelliannau A55 Abergwyngregyn i Dai’r...

Gwelliannau A55 Abergwyngregyn i Dai’r Meibion
AM Y PROSIECT
Cafodd Griffiths eu penodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwaith gwella ar yr A55 rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion, Gwynedd. Bydd y contract Dylunio ac Adeiladu yn gwella diogelwch ar hyd 2.2km o’r ffordd wrth deithio tua’r gorllewin a thua’r dwyrain rhwng Cyffordd 12 a Chyffordd 13 drwy gael gwared ag allanfeydd uniongyrchol oddi ar yr A55, yn ogystal â chau wyth bwlch yn y llain ganol a oedd wedi’u darparu’n wreiddiol i alluogi cerbydau amaethyddol araf i groesi’r A55.
Mae’r Prosiect hefyd yn cynnwys dros bedair cilometr o adnoddau teithio llesol newydd a gwell er mwyn annog seiclo a cherdded, gan gefnogi egwyddorion cymdeithas garbon isel, ac mae’n darparu amddiffyniad ychwanegol i’r A55 rhag llifogydd hefyd drwy adeiladu system ddraenio lawer gwell, gan roi hwb i wytnwch y ffordd. Ymhlith elfennau eraill y gwaith, mae cyfleusterau a mentrau ychwanegol i wella a hybu bywyd gwyllt a bioamrywiaeth.
Er mwyn tarfu llai ar drafnidiaeth, mae cymaint o’r gwaith â phosib wedi cael ei gwblhau oddi ar yr A55 ei hun drwy adeiladu’r 1.3km sy’n cyfuno llwybrau mynediad a theithio llesol, a’i ddefnyddio dros dro fel cerbytffordd dwy lôn ar gyfer teithio tua’r dwyrain. Mae hynny wedi’n galluogi ni i gadw’r traffig yn symud ar bedair lôn ar y ffordd allweddol hon, er bod hynny wedi bod dan gyfyngiad cyflymder dros dro o 40mya oherwydd cyfyngiadau ar led y tir, gyda’r cyfyngiad cyflymder hwnnw’n parhau trwy gydol y gwaith adeiladu. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2023.
I gael gwybodaeth bellach am welliannau’r A55 Abergwyngregyn i Dai’r Meibion, ewch i: https://www.llyw.cymru/a55-gwella-ffordd-abergwyngregyn-i-dair-meibion
Cylchlythyrau’r Prosiect
Fideos prosiect
Diweddariadau traffig
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect, Rich Foxhall drwy ebostio A55Abergwyngregyn@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol