- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Adeiladu Pont newydd yn lle...

Adeiladu Pont newydd yn lle Pont Bodfel
AM Y PROSIECT
Dyfarnodd Cyngor Gwynedd gontract i Griffiths ym mis Rhagfyr 2021 ar gyfer adeiladu pont newydd yn union i’r de o Bont Bodfel dros Afon Rhyd-hir ar yr A497 ym Moduan, ger Pwllheli. Yn ystod misoedd cyntaf 2022, aeth Griffiths i’r afael â’r gwaith o ddylunio’r bont gyda’r partneriaid dylunio Tony Gee. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 2022.
Bydd y gwaith yn esgor ar bont newydd, sef pont fwa goncrit un rhychwant 17 metr a gaiff ei gorchuddio â cherrig lleol. Hefyd, bydd y gwaith yn cynnwys ailalinio’r ffordd ddynesu at y bont, yn ogystal â gwelliannau i gyffordd Gefail y Bont gerllaw i gyfeiriad Llannor, fel y gellir uno’n ddiogel â’r ffordd newydd.
Mae’r A497 yn ffordd strategol bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan hon o Wynedd, ac mae’n llwybr pwysig i dwristiaid rhwng Pwllheli a Phen Llŷn. Mae cryn ddifrod wedi dod i ran y bont bresennol (sef pont restredig Gradd 2) yn sgil erydu ar ei sylfeini ac fe’i caewyd ym mis Ionawr 2019. Defnyddiwyd ‘Pont Bailey’ dros dro gyda mesurau rheoli traffig er mwyn osgoi gwyriad maith ac fel y gellid cynnal gwaith trwsio, gan ailagor gyda rhai mesurau rheoli traffig hyd nes y bydd y bont newydd ar waith. Fodd bynnag, y bwriad yw cadw pont hanesyddol Bodfel a’i haddasu at ddibenion gwahanol, fel y bydd modd i gerddwyr a beicwyr ei defnyddio. Trwy wneud hyn, bydd modd sicrhau ei dyfodol am flynyddoedd i ddod.
Disgwylir i’r bont newydd agor yn gynnar yn haf 2023 cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir gerllaw, ddechrau – digwyddiad a fydd yn denu degau o filoedd o bobl i’r ardal.
Hyd yn hyn, mae’r ffyrdd dynesu wedi cael eu hadeiladu a hefyd mae’r cloddiau newydd wedi cael eu hadeiladu. Mae pyst CFA (Continuous Flight Auger)1 wedi’u gosod ar ddwy ochr y bont fel rhan o sylfeini’r bont, a defnyddiwyd dau graen i osod y bwâu ar yr ategweithiau newydd i rychwantu’r afon – gwaith digon cymhleth, yn wir. Ers gosod y bwâu, mae’r gwaith ar y cwlfertau a’r caergewyll2 yn mynd rhagddo’n dda, gan gysylltu’r ffyrdd dynesu â’r adeiledd newydd. Mae’r holl waith hyd yn hyn wedi’i wneud trwy ddefnyddio goleuadau ffyrdd dwy ffordd, gan leihau trafferthion i breswylwyr lleol. Os bydd y tywydd yn caniatáu, bydd y gwaith yn cael ei gwblhau a bydd y ffordd newydd yn cael ei hagor yn ystod mis Ebrill 2023.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma
1 Mae’r dechneg CFA (Continuous Flight Auger) ymhlith y technegau tawelaf o’i bath ac nid yw’n cynhyrchu fawr ddim dirgryndod. O’r herwydd, mae’n dechneg ddelfrydol wrth weithio’n agos at adeiladau eraill neu mewn ardaloedd amgylcheddol sensitif.
2 System gynnal fodiwlar yw caergewyll. Cânt eu gwneud o rwyllau gwifrog galfanedig sy’n llawn creigiau, cerrig neu ddeunyddiau eraill nad ydynt yn pydru.
Fideos prosiect
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect, Rich Foxhall drwy ebostio rich.foxhall@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol