- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Cae...

Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Cae Glas Abermaw
Am y prosiect
Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Cae Glas Abermaw
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r ardal a adnabyddir fel Gerddi’r Cae Glas yn y Bermo wedi dioddef llifogydd nifer o weithiau. Mae ffynhonnell y llifogydd yn gymhleth, ac mae wedi digwydd gan fod y môr yn gorlifo dros y morglawdd presennol gan foddi’r rhwydwaith dŵr wyneb presennol.
Mae llifogydd hefyd wedi digwydd pan fo rhwydwaith y dŵr wyneb wedi’i atal rhag llifo’n rhwydd gan ddyfroedd llanwol o ganlyniad i garthffosydd yn cael eu cloi gan y llanw, a difrodwyd y prif forglawdd yn ystod storm yn 2020, gan beri iddo ddymchwel yn rhannol.
Mae’r gwaith yn cael ei reoli gan y Prif Gontractwr, Griffiths, sydd yn gweithio i Gyngor Gwynedd gan cynnwys adeiladu morglawdd newydd, wal eilaidd newydd, system dŵr wyneb newydd a gorsaf bwmpio gysylltiedig, yn ogystal â gosod pedair llifddor newydd a gwaith tirlunio cysylltiedig. Mae’r gwaith yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
- Bydd y morglawdd presennol yn cael ei ailadeiladu trwy ddefnyddio unedau concrid wedi’u rhag-gastio a chaiff ei orchuddio â gwaith maen a dorrir o gerrig yn y morglawdd presennol.
- Bydd rhan uwch newydd o forglawdd yn cael ei hadeiladu yn union y tu ôl i’r morglawdd a ailadeiledir, a bydd yn cael ei orffen gyda blociau cerrig.
- Bydd yr amddiffynfeydd meini ‘dros dro’ yn cael eu hailddosbarthu y tu blaen i’r morglawdd, a bydd cerrig llai ychwanegol yn cael eu hymgorffori fel bo’r angen.
- Gollyngfa dŵr wyneb newydd ar y traeth, ymhellach allan na’r draphont bresennol.
- Bydd yr ollyngfa a’r bibell bresennol ar y traeth yn cael eu symud ymaith.
- Llifddorau sengl a dwbl.
- Blwch rheoli ar gyfer gorsaf bwmpio danddaearol newydd a siambrau newydd.
- Wal eilaidd newydd yng nghefn yr ardd, a fydd yn cael ei gorffen gyda blociau cerrig.
- Gylïau a siambrau newydd er mwyn i’r briffordd allu draenio’n well.
- Creu croesfan uwch i gerddwyr (cyfunol) gan ddisodli’r cerrig palmant presennol.
- Tynnu’r wal isel a’r rheiliau.
- Cynnwys llecyn palmantog yng Ngerddi Cae Glas.
- Creu terfyn allanol gyda rheiliau newydd ar gyfer gerddi Cae Glas.
- Gostwng rhan uwch newydd o‘r forglawdd o 5.60 yn y gornel hyd at y ddaear o dan y draphont.
Disgwylir i gwblhau‘r gwaith yn ystod Gwanwyn 2026
Oriel y prosiect
Cwrdd â’r Tîm
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu â Thîm y Prosiect drwy e-bostio abermaw@alungriffiths.co.uk
Project
Contact
*Calls to this number are charged at national call rates and included in inclusive minute plans from landlines and mobiles

