- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos,...
![](https://community.griffiths.co.uk/wp-content/uploads/2023/12/Web-feature-photo-Penrhos-Road-scaled.jpg)
Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd
AM Y PROSIECT
Penodwyd Griffiths i gyflawni’r Cynllun Teithio Llesol Ffordd Penrhos gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) a Chyngor Gwynedd ym mis Hydref 2023. Cychwynodd y gwaith yn dechrau ar 15 Tachwedd 2023 gyda’r disgwyl byddwn yn gorffen diwedd y Gwanwyn 2024.
Mae’r prosiect, a ariennir gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac a gefnogir gan Trafnidiaeth Cymru (TfW) yn cynnwys pedwar cam; Griffiths sydd yn adeiladu’r cam cyntaf. Bydd camau gwelliant yn y dyfodol yn cwblhau Llwybr Teithio Llesol i Orsaf Bangor. Bydd y rhannau ychwanegol hyn yn cael eu gosod ar dendr pan fydd cyllid ar gael, a byddant ar wahân i’r cam hwn o’r prosiect cyffredinol.
Bydd y gwaith yn digwydd ar hyd oddeutu 1km o’r ffordd yng nghyffiniau Ysbyty Gwynedd ger cylchfan Coed y Maes, gan barhau ar hyd Ffordd Penrhos am oddeutu 850 metr at gyffordd Coed Mawr.
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Culhau’r ffordd
- Creu llwybr Teithio Llesol, sy’n cynnwys lledu’r llwybr troed presennol (h.y. culhau ychydig ar y briffordd)
- Gosod ymylon palmant, croesfannau botymog a chroesfannau rheoledig newydd – fydd yn cynnwys croesfannau sebra gyda goleuadau Belisha a chroesfannau Pelican.
- Bydd arwyddion newydd yn cael eu gosod hefyd ynghyd ag arwyddion atgoffa cyflymder sy’n gweithio drwy radar
Rydym yn cydnabod bod y rhan hon o’r ffordd yn un hynod brysur; er mwyn i ni allu cynnal y gwaith yn ddiogel, bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio i reoli llif y traffig. Bydd y rhain yn gyfuniad o oleuadau 2, 3 a 4 ffordd, yn ddibynnol ar y cyffyrdd yn yr ardal waith gyfagos, a byddant yn cael eu rheoli gan weithwyr yn ystod yr adegau prysuraf.
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio ffordd.penrhos.road.ats@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol