- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Teithio Llesol yr A470...

Cynllun Teithio Llesol yr A470 rhwng Llanelltyd a Dolgellau
AM Y PROSIECT
Bydd y prosiect hwn sy’n cael ei gynnal ar ran Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gwella llwybr cerdded sy’n bodoli yn gyfochrog â’r A470 rhwng Llanelltyd a Dolgellau er mwyn ei wneud yn addas i’w ddefnyddio fel llwybr amlddefnydd.
Mae’r Cynllun ei hun yn mynd ar hyd ochr orllewinol yr A470 o’r gylchfan ym mhentref Llanelltyd ac yn dilyn y ffordd tua’r de-ddwyrain a thros y bont dros Afon Mawddach, cyn croesi drosodd i ochr arall y ffordd ger y gyffordd â’r is-ffordd Dosbarth 3 i Abaty Cymer. Mae’n mynd yn ei flaen wedyn ar hyd ochr ddwyreiniol y ffordd cyn croesi eto ger y gylchfan â’r A493 i Dywyn.
Mae’r rhan fwyaf o’r cynllun yn ymwneud â lledu’r llwybr cerdded presennol a’i adeiladu yn ôl safonau a lled cyfoes.
Mae’r hen gyrbiau wedi eu tynnu oddi yno, wedyn bydd cyrbiau gyda chyrbiau ymyl newydd wedi eu gosod er mwyn gallu lledu’r llwybr amlddefnydd newydd i Ddolgellau. Mae arwynebau botymog wedi eu gosod ac mae’r ynysoedd traffig ar hyd yr A470 wedi eu adleoli, ynghyd â gosod wyneb newydd ar hyd y llwybr newydd rhwng Llanelltyd a Dolgellau.
Mae arwyddion ychwanegol a rhai newydd ynghyd wedi eu gosod ac mae’r llinellau gwyn ar hyd y cynllun hyd at fynedfa Llwybr Mawddach wedi eu ailosod, gan gysylltu pentref Llanelltyd â Dolgellau a Llwybr Mawddach. Mae’r Llwybr hwnnw’n llwybr seiclo, yn rhan o Lôn Las Cymru, sydd ryw 8 milltir o hyd o Ddolgellau i orsaf reilffordd Morfa Mawddach, ger Pont y Bermo ar arfordir Cambria.
Dechreuodd y gwaith ar 6ed Chwefror 2023 a chwblhawyd y prosiect ym nis Mai 2023.
Cwrdd â’r Tîm
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect, Rich Foxhall drwy ebostio rich.foxhall@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
Â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol