- Home
- /
- Prosiectau
- /
- GWAITH I GODI UCHDER PROMENÂD...
GWAITH I GODI UCHDER PROMENÂD HEN GOLWYN
AM Y PROSIECT
GWAITH I GODI UCHDER PROMENÂD HEN GOLWYN
Caiff y prosiect hwn ei gynnal ar yr un pryd â gwaith Amddiffyn yr Arfordir. Yn sgil y prosiect hwn, bydd y promenâd a’r ffordd yn cael eu codi 2 fetr yn uwch na’r lefel bresennol, rhwng Rotary Way a Splash Point (wrth ymyl Bwâu Hen Golwyn). Bydd hyn yn helpu i amddiffyn y promenâd rhag dŵr môr sy’n tasgu dros ei ben yn ystod stormydd. Yn gyntaf, rhaid cwblhau’r gwrthglawdd cerrig ar ochr arall y morglawdd, oherwydd bydd hwn yn cynnal ac yn amddiffyn y promenâd uwch.
Mae’r Llwybyr Arfordirol ar gau y rhan fwyaf o fis Chwefror 2024, a disgwylir i’r prosiect cyfan gael ei gwblhau yn ystod chwarter cyntaf 2024.
Yn ogystal â chodi’r ffordd a’r promenâd 2 fetr yn uwch, bydd y prosiect hefyd yn cynnig ystafell ddosbarth awyr agored, mannau gwefru ceir trydan a ramp mynediad ar gyfer y traeth.
Mae’r gwaith yn cynnwys:
- Adeiladu wal newydd ar gyfer y promenâd
- Mewnforio deunydd llenwi fel y gellir codi lefel y ffordd a’r promenâd
- Slabiau/arwyneb concrit newydd ar y promenâd
- Draeniau
- Goleuadau strydoedd
- Adeiladu cerbytffordd a mannau parcio
- Adeiladu waliau cynnal ychwanegol (codi lefel y rhai presennol)
- Gosod canllawiau a gorffeniadau newydd ar y promenâd
Mae’r gwaith uchod yn waith peirianneg sylweddol a bydd angen defnyddio cyfarpar a pheiriannau mawr, yn cynnwys craeniau, peiriannau cloddio â thraciau a lorïau dympio. Yr unig ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r gwaith hwn yn ddiogel yw trwy gau’r rhan hon o’r promenâd yn llwyr, yn ogystal â chau’r ffordd a’r llwybr teithio llesol rhwng Splash Point (wrth ymyl Bwâu Hen Golwyn) a Rotary Way. Ymddiheurwn am yr anhwylustod a achosir.
Mae gwyriadau ar waith ar gyfer cerbydau, cerddwyr a beicwyr. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwyriadau yn ein hadran Rheoli Traffig yma.
Mae gwaith galluogi ar y gweill ar hyn o bryd, a bydd y llwybyr arfordirol ar gau tan ddiwedd mis Chwefror 2024.
I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Amddiffyn yr Arfordir yn Hen Golwyn, ewch i: https://www.conwy.gov.uk/cy/amddiffynyrarfordir
CWRDD Â’R TÎM
Contact the Site
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio rich.foxhallalungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Project
Contact
*Calls to this number are charged at national call rates and included in inclusive minute plans from landlines and mobiles