- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Amddiffyn Arfordir Hen Golwyn

Cynllun Amddiffyn Arfordir Hen Golwyn
Am y prosiect
Ym mis Mawrth 2021, penodwyd Griffiths gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i fynd i’r afael â Phrosiect Amddiffyn Arfordir Hen Golwyn, a gwnaed cynnydd cyson drwy gydol y pandemig.
Mae’r gwaith hwn yn targedu’r rhan honno o Bromenâd Hen Golwyn sydd fwyaf tebygol o ddymchwel – sef y rhan ddwyreiniol rhwng Ffordd y Rotari a Splash Point (wrth ymyl Bwâu Hen Golwyn).
Mae’r prosiect yn cynnwys:
- Gosod amddiffynfeydd meini i amddiffyn y morglawdd a’r promenâd
- Ymestyn y cwlfert presennol yn Splash Point (wrth ymyl Bwâu Hen Golwyn) trwy’r amddiffynfeydd meini newydd
- Amddiffyn gollyngfa Dŵr Cymru Welsh Water dan yr amddiffynfeydd meini newydd
- Creu llwyfan pysgota newydd yn Splash Point (wrth ymyl Bwâu Hen Golwyn)
- Gwella strwythurau mynediad y traeth
- Gwella mynediad at y traeth dros y grwynau cerrig
Mae’r rhan fwyaf o’r gwelliannau sy’n perthyn i’r cam hwn yn ymwneud â’r ochr o’r morglawdd sy’n wynebu’r môr, gan ddarparu lefel gyntaf y gwaith amddiffyn.
Mae’r gwaith hwn yn waith peirianneg sylweddol a bydd angen defnyddio cyfarpar a pheiriannau mawr, yn cynnwys craeniau, peiriannau cloddio â thraciau a lorïau dympio. Yr unig ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r gwaith hwn yn ddiogel yw trwy gau’r rhan hon o’r promenâd yn llwyr, yn ogystal â chau’r ffordd a’r llwybr teithio llesol rhwng Splash Point (wrth ymyl Bwâu Hen Golwyn) a Ffordd y Rotari. Ymddiheurwn am yr anhwylustod a achosir.
Mae gwyriadau ar waith ar gyfer cerbydau, cerddwyr a beicwyr. Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwyriadau yn ein hadran Rheoli Traffig yma.
Hyd yn hyn, rydym wedi cwblhau 370m o waliau cynnal y graig lle bu’n rhaid cludo 65,000 tunnell o amddiffynfeydd meini ar y safle. Adeiladwyd cwlfertau newydd ynghyd â slabiau amddiffyn gollyngfeydd a llwyfan pysgota newydd. Rydym yn parhau i fynd i’r afael â gwaith i ymestyn y wal gynnal hyd at Splash Point – ar ôl gorffen y gwaith, bydd 720m o waliau cynnal wedi’u hadeiladu. Mae’r gwaith i adeiladu ramp mynediad newydd ar gyfer y llwyfan pysgota yn dal i fynd rhagddo. Bydd gwaith i adeiladu grisiau mynediad at y traeth yn dechrau ar ôl i’r tywydd wella er mwyn lleihau effaith y llanw ar y strwythurau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Amddiffyn Arfordir Hen Golwyn, ewch i: https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Leisure-sport-and-health/Coast-and-Countryside/Seaside/Beaches-and-Promenades/Coastal-Defence-Projects/Coastal-Defence-Projects.aspx
Diweddariadau traffig
Cwrdd â’r Tîm
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio oldcolwyncoastaldefence@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cwestiynau cyffredinol
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol