- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Ynys Môn – Contract Cyfnod...
Ynys Môn – Contract Cyfnod Penodol ar gyfer Gwasanaethau Cynnal a Chadw Priffyrdd a Goleuadau Strydoedd
AM Y PROSIECT
Mae Griffiths wedi mynd i’r afael â’r Contract Cyfnod Penodol ar gyfer Gwasanaethau Cynnal a Chadw Priffyrdd a Goleuadau Strydoedd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn ers 2019.
Dan y contract hwn, rydym yn mynd ati i gynnal a chadw oddeutu 1,300km o ffyrdd; 1,100km o hawliau tramwy cyhoeddus; 10,000 o oleuadau strydoedd a 1,500 o arwyddion traffig ffyrdd sydd wedi’u goleuo a heb eu goleuo trwy’r ynys, 24/7 – 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae ein gwaith yn amrywiol dros ben ac mae’n cynnwys gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf. Mae’r gwaith cynnal a chadw hwn yn cynnwys graeanu ffyrdd a defnyddio erydr eira, gwagio gylïau, trin chwyn a chynorthwyo’r Gwasanaethau Brys gyda materion yn ymwneud â phriffyrdd.
Cawn ein galw i gynorthwyo gyda gwahanol sefyllfaoedd, yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ffyrdd – cael gwared â malurion a sicrhau bod ffyrdd/llwybrau troed yn ddiogel. Rydym hefyd yn cynorthwyo ar ôl llifogydd a difrod storm megis coed sydd wedi’u chwythu i lawr, rydym yn delio ag amodau peryglus ar ffyrdd fel tyllau a gwaith haearn sydd wedi cael difrod, rydym yn cynorthwyo pan fydd diesel neu olew wedi arllwys ar ffyrdd ac rydym yn cynnig gwasanaeth ymatebol ar gyfer goleuadau strydoedd diffygiol.
Hefyd, rydym yn gofalu am ‘gelfi stryd’ a strwythurau ledled Ynys Môn, yn cynnwys meinciau, rhwystrau traffig a bolardiau i enwi dim ond rhai.
Yn ogystal â’r uchod, caiff prosiectau a chynlluniau peirianneg sifil bach eu dyfarnu trwy ddefnyddio trefniadau’r contract, yn cynnwys:
- Cynlluniau draenio a lliniaru llifogydd
- Llwybrau diogel i’r ysgol, yn ogystal â throedffyrdd a llwybrau beicio diogel
- Gwelliannau i gyffyrdd ac i welededd
- Strwythurau fel pontydd a waliau cynnal
Fideos y Tîm
Cyfarfod â Thîm Ynys Môn
Cyfarfod â Neil Griffith, Peiriannydd Goleuadau Stryd
Cyfarfod ag Arwel Parry Jones, Goruchwyliwr Gwaith
Cyfarfod â Robert Kelly o’r Tîm Priffyrdd, Cynnal a Chadw
Cyfarfod ag Adam Roberts, Peiriannydd Goleuadau Stryd
CWRDD Â’R TÎM
CYSYLLTWCH Â'R SAFLE
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd am y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio ynysmon_anglesey@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 4638*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol am alwadau i’r rhif hwn ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol