Tuesday, 30 January 2024
Dear Resident,
ADVANCED WARNING OF REDSTONE ROAD CLOSURE – SPRING 2024
I am writing on behalf of the A40 Llanddewi Velfrey to Redstone Cross Improvements to inform you of an upcoming road closure at the northern section of Redstone Road, near the junction at the A40. This closure will have an impact on residents and businesses in the immediate area. The purpose of this closure is to facilitate the connection to the newly constructed Redstone Bridge and slip road down onto the new A40 Trunk Road. As part of this project, we will need to remove the old road.
The A40 and Redstone Road will close at the location of the bridge and slip road on Friday 19th April 2024 at 8pm. The main A40 Trunk road will re-open on Monday 22nd April 2024 at 6am. During this period we will construct the new slip road from the existing A40 towards the north side of bridge and back down onto existing A40.
The Redstone Road section will remain closed for approximately 3.5 weeks. Please note that the closure will only affect a small section of Redstone Road at the new Redstone Bridge. During this period, direct access to Redstone Road from the A40 will not be possible. However, access from the southerly direction will be maintained, and you should see no difference in access from Narberth town centre. During this closure we will complete the stats works and upfill for the bridge connection to the south side of Redstone Bridge then re-opening to allow traffic flow from and to the A40.
Our priority will be to offer additional assistance to businesses that use large and heavy goods vehicles, and we will be reaching out to these businesses separately.
We will be arranging a drop-in Community Engagement Event on Wednesday 28th February from 10am – 6pm at Bloomfield Community Centre, Narberth. If you have any questions regarding the closure please drop-in to meet the project team who will be happy to discuss in more detail.
For the latest updates on this closure and additional information on the diversions in place, please visit
While the closure is still some time away, we wanted to provide early warning to local residents and businesses about these upcoming works. We are also in close coordination with Pembrokeshire County Council regarding this project.
If you have any queries or concerns, please feel free to contact me at 03301 071504 or via a40lvrcenquiries@alungriffiths.co.uk. For further graphical explanation of the closure, please see overleaf. We will be providing you with more information closer to the time of the closure.
Thank you for your attention to this matter.
Yours sincerely,
Matthew Davies
Griffiths Stakeholder Relations
Griffiths Project Office: A40 Improvements Scheme Project Office, Parc y Delyn, Llanddewi Velfrey, SA67 7PA. Griffiths Head Office: Waterways House, Merthyr Road , Llanfoist, Abergavenny, NP7 9PE.
Part One: Weekend A40 Trunk Road Closure and Redstone Road closure.
Part Two: A40 Trunk Road re-opens. Redstone Road Closure for a further 3.5 weeks.
HGV and Local Route to Redstone Road / Northfield Road Throughout Closure Period
Griffiths Project Office: A40 Improvements Scheme Project Office, Parc y Delyn, Llanddewi Velfrey, SA67 7PA. Griffiths Head Office: Waterways House, Merthyr Road , Llanfoist, Abergavenny, NP7 9PE.
Dydd Gwener, 9 Chwefror 2024
I bwy bynnag a fynno wybod,
RHYBUDD YMLAEN LLAW O GAU HEOL MAENCOCH – GWANWYN 2024
Ar ran tîm Gwella’r A40 o Landdewi Felffre i Groesffordd Maencoch, rydym yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am ein bwriad i gau heol yng Ngwanwyn 2024. Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi rhybudd cynnar a manylion yr effaith ar ran ogleddol Heol Maencoch, yn enwedig ger ei chyffordd â’r A40.
Manylion y cau
Er mwyn hwyluso cysylltiadau hanfodol â Phont Maencoch sydd newydd ei hadeiladu a’r slipffordd gysylltiedig i gefnffordd newydd yr A40, byddwn yn cau rhan o Heol Maencoch a’r A40 dros dro. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cael gwared ar yr hen heol ac integreiddio’r seilwaith newydd yn ddiogel ac yn effeithlon.
Bydd cyffordd yr A40 a Heol Maencoch yn cau yn lleoliad y bont a’r slipffordd hyd at Gartref Gofal Blaenmarlais
- Dechrau – Dydd Gwener, 19 Ebrill 2024 am 8pm
- Gorffen – Bydd prif gefnffordd yr A40 yn ailagor ddydd Llun, 22 Ebrill 2024 am 6am
Bydd rhan Heol Maencoch yn aros ar gau am rai wythnosau a bydd yn ailagor erbyn dydd Llun 20 Mai 2024.
Mynediad yn ystod y cau
Bydd cau’r heol yn effeithio’n benodol ar y rhan o Heol Maencoch ger y Bont Maencoch newydd:
- Bydd mynediad uniongyrchol i Heol Maencoch i’r/o’r A40 yn cael ei atal yn ystod y cyfnod hwn.
- Bydd mynediad i weddill Heol Maencoch o ganol tref Arberth o hyd.
- Bydd trigolion cyffordd Maencoch yn cael mynediad i’w/o’u cartrefi
- Byddwn yn cwblhau gwaith seilwaith angenrheidiol, gan gynnwys addasiadau i gyfleustodau a chysylltiadau’r bont, er mwyn ailagor Heol Maencoch ar gyfer llif traffig i’r/o’r A40 cyn gynted â phosibl.
- Byddwn yn cysylltu â busnesau’n uniongyrchol i drefnu logisteg ar gyfer cludo nwyddau a deunyddiau.
Swyddfa Prosiect Griffiths: Swyddfa Prosiect Cynllun Gwella’r A40, Parc y Delyn, Llanddewi Felffre, SA67 7PA. Prif Swyddfa Griffiths: Tŷ Waterways, Heol Merthyr , Llan-ffwyst, Y Fenni, NP7 9PE.
Digwyddiad Ymgysylltu â’r Gymuned
I drafod y cau hwn ac i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon, rydym yn eich gwahodd i Ddigwyddiad Ymgysylltu â’r Gymuned:
Dyddiad: Dydd Mercher, 28 Chwefror 2024
Amser: 10am – 6pm
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield, Arberth
Rhagor o Wybodaeth a’r Newyddion Diweddaraf
I gael y newyddion diweddaraf, llwybrau manwl y gwyriadau traffig a gwybodaeth ychwanegol, ewch i https://community.griffiths.co.uk/cy/our_projects/a40-llanddewi-velfrey-to-redstone-cross-improvements/
Manylion Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon brys, mae croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol ar 03301 071504 neu drwy e-bost yn a40lvrcenquiries@alungriffiths.co.uk. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ac i sicrhau ein bod yn parhau i gyfathrebu â’r gymuned drwy gydol y prosiect hwn.
Rydym yn deall pwysigrwydd yr heol hon i’n cymuned ac rydym yn cydweithio’n ddiwyd â Chyngor Sir Penfro i reoli’r gwaith cau yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae gwybodaeth fanwl ac esboniadau graffigol o’r cau ar gael drosodd, er mwyn darparu arweiniad clir ar yr ardal yr effeithir arni a llwybrau amgen.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni weithio i wella ein seilwaith ffyrdd er budd pawb.
Yn gywir,
Matthew Davies
Cysylltiadau Rhanddeiliaid, Alun Griffiths Contractors Ltd Swyddfa Prosiect Griffiths: Swyddfa Prosiect Cynllun Gwella’r A40, Parc y Delyn, Llanddewi Felffre, SA67 7PA. Prif Swyddfa Griffiths: Tŷ Waterways, Heol Merthyr , Llan-ffwyst, Y Fenni, NP7 9PE.
Rhan Un:
Cau Cefnffordd yr A40 a chau Heol Maencoch dros y penwythnos.
Rhan Dau:
Cefnffordd yr A40 yn ailagor.
Heol Maencoch ar gau am 3.5 wythnos arall.
Llwybr HGV a Thraffig Lleol i Heol Maencoch / Heol Northfield Drwy Gydol y Cyfnod Cau