Amcanion y Cynllun
• Gwella gwydnwch y rhwydwaith a gwella hygyrchedd ar hyd coridor trafnidiaeth y dwyrain-gorllewin i gyrchfannau cyflogaeth, cymunedol a thwristiaeth allweddol.
• Gwella ffyniant a darparu gwell mynediad i dref sirol Hwlffordd, Ardal Fenter y Ddau Gleddau a phorthladdoedd Gorllewin Cymru yn Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro.
• Lleihau toriadau cymunedol a darparu manteision iechyd ac amwynder.
• Gwella diogelwch (a diogelwch canfyddedig) Cyffordd Croesffordd Maencoch a lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau.
• Hyrwyddo teithio llesol ar feic, marchogaeth ceffylau a cherdded i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ffyrdd iach o fyw.
• Darparu cynllun sy’n hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac sy’n integreiddio â’r rhwydwaith trafnidiaeth lleol i gysylltu cymunedau lleol yn well â chanolfannau trafnidiaeth allweddol.
• Cyflawni prosiect sy’n gynaliadwy mewn Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gan gymryd camau i leihau neu wrthbwyso gwastraff a charbon.
• Rhoi ystyriaeth briodol i effaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd a darparu gwelliant pan fo’n ymarferol.
Cynllun yn ôl rhifau
• 2 gylchfan newydd a 2 gyffordd newydd.
• 6km o briffordd newydd.
• 2 bont newydd, 18 cwlfert newydd a 3 estyniad i’r cwlfertau presennol.
• 5.5km o gyfleusterau a rennir ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth ceffylau.
• 9 pwll draenio cynaliadwy.
• 14.5km o ddraeniad priffyrdd a phibellau cysylltiedig.
• 16km o ffensys ecolegol.
26/06/2023: Canlyniad Llwyddiannus i Waith Penwythnos ar Brosiect yr A40
Llwyddodd tîm Gwelliannau’r A40 o Landdewi Felffre i Groes Goch yn Llanddewi Felffre i gyrraedd carreg filltir bwysig am 5am ddydd Llun 19 Mehefin.
Ar ôl gwaith cynllunio a pharatoi helaeth, llwyddodd y tîm adeiladu, dan arweiniad y Prif Gontractwr Alun Griffiths, i adeiladu’r adran newydd ar y ffordd bresennol yn llwyddiannus, adran a oedd yn cynnwys cynnydd sylweddol yn y lefelau rhwng y rhan o’r A40 sydd bellach yn hen a rhan o’r A40 newydd yng Nghoed Ffynnon, i’r gorllewin o Landdewi Felffre.
I hwyluso’r gwaith hwn, caewyd yr A40 dros dro rhwng 8pm ddydd Gwener 16 Mehefin 2023 a 5am ddydd Llun 19 Mehefin 2023.
Mae’r garreg filltir hon yn gam pwysig i’r Cynllun, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Roedd y gwaith hwn wedi’i amserlennu’n strategol yn ystod penwythnos a thu allan i’r gwyliau ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fusnesau lleol a’r gymuned. Roedd cydweithio effeithiol ag ystod eang o randdeiliaid yn allweddol i lwyddiant yr ymdrech hon.
Dywedodd Andrew Davies, Rheolwr Prosiect:
“Mae adran sylweddol ar y ffordd bresennol bellach wedi’i chysylltu i’r gorllewin o Landdewi Felffre, diolch i gydweithio anhygoel rhwng sefydliadau amrywiol a thîm hynod o ymroddedig a fu’n gweithio shifftiau bob awr o’r dydd yn ystod gweithrediad parhaus 57 awr i gwblhau’r gwaith yn ddiogel ac ar amser. Dylai pawb a gymerodd ran fod yn falch iawn o’u gwaith caled a’u cyflawniad,a gobeithiwn y bydd defnyddwyr yn deall arwyddocâd y garreg filltir bwysig hon o ystyried mai dyma’r adran gyntaf o’r ffordd newydd.”
I gynnal gwasanaethau brys di-dor, cafodd ffordd ymyl gyfagos ei chau dros dro a’i rheoli’n ofalus i ddarparu llwybr amgen o amgylch yr ardal yr effeithiwyd arni. Defnyddiodd y gwasanaethau brys y llwybr hwn yn effeithiol trwy gydol y penwythnos.
Dywedodd Andrew hefyd:
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r cymunedau lleol yr effeithiodd y gwaith hwn arnynt, ac i breswylwyr Gogledd Sir Benfro am amlygu cymaint o ddealltwriaeth tra bu’r A40 ynghau i gwblhau’r dasg heriol hon.”
Wrth edrych i’r dyfodol, bydd y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo’n gyflym yn ystod misoedd yr haf, a hynny’n bennaf heb fod ar y ffordd bresennol a pheth pellter o’r A40 gyfredol.
There will be a single night road closure on Monday 11th July and will be in place from 2000hrs until 0600hrs.
The following work will be carried out during this period:
• Plane out ex road surface at east and west ends of central reservation to install new kerb lines.
• Install road crossing near Creech Castle Business Park for Western Power cable to traffic signal controller.
This will be a full closure from the Hankridge roundabout to the Asda junction inbound and from the Wickes roundabout to the Hankridge roundabout outbound.
Updates will be posted regularly on Travel Somerset Twitter –
@travelsomerset and Facebook.
We apologise for any inconvenience that this may cause and thank you for your understanding and patience as we come into the final stages of this project.
As part of the essential work to complete this scheme and allow the team full access to the road there will need to be night-time closures of Toneway for about six weeks from 25 July. Undertaking the work in the evening when the traffic levels are much lower will significantly reduce the impact of the finishing works.
The closures will be in place from 8pm until 6am weekday evenings only from 25 July to 31 August. The road will be open during the evening at weekends.
This will be a full closure from the Hankridge roundabout to the Asda junction inbound and from the Wickes roundabout to the Hankridge roundabout outbound.
There may be some occasions when a night-time road closure can be avoided, or the team can close the road later in the evening. Updates will be posted regularly on Travel Somerset Twitter – @travelsomerset and Facebook.
*Codir tâl ar alwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galw cenedlaethol a’u cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tŷ a ffonau symudol
E-bost: A40LVRCEnquiries@alungriffiths.co.uk
*Calls to this number are charged at national call rates and included in inclusive minute plans from landlines and mobiles
Email: A40LVRCEnquiries@alungriffiths.co.uk
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol