- Home
- /
- Cynaliadwyedd
- /
- Gyrru Cynaliadwyedd yn ei Flaen
GYRRU
CYNALIADWYEDD YN EI FLAEN
DILYNWCH DAITH WERDD EIN TÎM
PEIRIANNAU A CHLUDIANT
Mae ein tîm Peiriannau a Chludiant yn gweithio’n galetach nag erioed i wneud Griffiths mor wyrdd a chynaliadwy â phosib.
Gwyliwch ein fideos i gael gwybod mwy.
ADRIAN DAVIES
Mae ein Cyfarwyddwr Peiriannau a Chludiant, Adrian Davies yn trafod y mentrau cyffrous sy’n gwneud fflyd Griffiths mor wyrdd a chynaliadwy â phosib.
DAVE DANDO
Felly, sut yn union mae gwneud peiriannau nwyddau trwm yn fwy amgylcheddol gyfeillgar? Dyma’r Rheolwr Cludiant, David Dando, i egluro popeth am DPF, AdBlue a HVO.
LIBBY DAVIES
Mae Cydlynydd y Fflyd, Libby Davies, yn egluro sut y gall addysgu ein gweithredwyr ynglŷn â gwneud newidiadau bach i dechnegau gyrru arwain at arbedion mawr ar danwydd.
ANTHONY HUGHES
Mae nod Griffiths o gyrraedd sero net o ran allyriadau erbyn y flwyddyn 2030 ar y gweill. Dyma’r Gweithredwr Peiriannau, Anthony Hughes, i ddweud mwy wrthon ni.
PAUL EVANS
Mae’r Rheolwr Gweithdy Peiriannau, Paul Evans, yn rhoi golwg i ni ar sut y gall hyd yn oed gwaith cynnal a chadw arferol ar gyfarpar fod yn effeithiol ac yn wyrdd.