- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Traphont...
Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Traphont Abermaw
Am y prosiect
Cynllun Lliniaru Llifogydd Gerddi Traphont y Bermo, Y Bermo, Gwynedd
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r ardal a adnabyddir fel Gerddi’r Draphont yn y Bermo wedi dioddef llifogydd nifer o weithiau. Mae ffynhonnell y llifogydd yn gymhleth, ac mae wedi digwydd gan fod y môr yn gorlifo dros y morglawdd presennol gan foddi’r rhwydwaith dŵr wyneb presennol.
Mae llifogydd hefyd wedi digwydd pan fo rhwydwaith y dŵr wyneb wedi’i atal rhag llifo’n rhwydd gan ddyfroedd llanwol o ganlyniad i garthffosydd yn cael eu cloi gan y llanw, a difrodwyd y prif forglawdd yn ystod storm yn 2020, gan beri iddo ddymchwel yn rhannol.
Bydd y gwaith yn cael ei reoli gan y Prif Gontractwr, Griffiths, a fydd yn gweithio i Gyngor Gwynedd. Mae’r gwaith yn cynnwys adeiladu morglawdd newydd, wal eilaidd newydd, system dŵr wyneb newydd a gorsaf bwmpio gysylltiedig, yn ogystal â gosod pedair llifddor newydd a gwaith tirlunio cysylltiedig. Mae’r gwaith yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
- Bydd y morglawdd presennol yn cael ei ailadeiladu trwy ddefnyddio unedau concrid wedi’u rhag-gastio a chaiff ei orchuddio â gwaith maen a dorrir o gerrig yn y morglawdd presennol.
- Bydd rhan uwch newydd o forglawdd yn cael ei hadeiladu yn union y tu ôl i’r morglawdd a ailadeiledir, a bydd yn cael ei orffen gyda blociau cerrig.
- Bydd yr amddiffynfeydd meini ‘dros dro’ yn cael eu hailddosbarthu y tu blaen i’r morglawdd, a bydd cerrig llai ychwanegol yn cael eu hymgorffori fel bo’r angen.
- Gollyngfa dŵr wyneb newydd ar y traeth, ymhellach allan na’r draphont bresennol.
- Bydd yr ollyngfa a’r bibell bresennol ar y traeth yn cael eu symud ymaith.
- Llifddorau sengl a dwbl.
- Blwch rheoli ar gyfer gorsaf bwmpio danddaearol newydd a siambrau newydd (mae angen cadarnhau’r trefniant).
- Wal eilaidd newydd yng nghefn yr ardd, a fydd yn cael ei gorffen gyda blociau cerrig.
- Gylïau a siambrau newydd er mwyn i’r briffordd allu draenio’n well (mae angen cadarnhau’r trefniant).
- Bydd croesfan uwch i gerddwyr (cyfunol) yn cael ei chreu, gan ddisodli’r cerrig palmant presennol.
- Bydd y wal isel a’r rheiliau’n cael eu tynnu.
- Bydd llecyn palmantog yn cael ei gynnwys yng Ngerddi’r Draphont.
- Bydd rheiliau newydd yn creu terfyn allanol newydd ar gyfer gerddi’r draphont.
- Bydd rhan uwch newydd o forglawdd yn gostwng o 5.60 yn y gornel hyd at y ddaear o dan y draphont.
Oriel y prosiect
Cynlluniau prosiect
Cwrdd â’r Tîm
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio abermaw@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 4638*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl i Rich ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Project
Contact
*Calls to this number are charged at national call rates and included in inclusive minute plans from landlines and mobiles