- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Gwelliannau Amgylcheddol Canol Dinas Wrecsam
Mae Griffiths wedi eu hapwyntio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflawni gwelliannau amgylcheddol i Ganol Dinas Wrecsam.
Byddwn yn cychwyn ar y prosiect Ddydd Llun 17eg o Fehefin ac yn dechrau’r gwaith ar Stryt Fawr/High Street yr wythnos ganlynol, Dydd Llun 24ain Mehefin. Nodir yr ardal lle gwneir y gwaith ar y map sydd i’w weld o fewn y ddogen ‘Cycyhwyn Gwaith’ o dan y tab Newyddion, ac mae’r gwelliannau’n cynnwys:
- Gwneud y Stryt Fawr/High Street a rhan o Allt y Dref/Town Hill yn barth ar gyfer cerddwyr yn unig
- Creu mannau gwyrdd a phlannu coed
- Darparu ardaloedd ar gyfer bwyta y tu allan
- Ardaloedd eistedd newydd
- Gosod blociau palmant, ymylon palmant ithfaen, a dodrefn stryd
- Symud y gylchfan wrth fynedfa Stryt Fawr/High Street sy’n cysylltu gyda Stryt Efrog
Bydd yr oriau gweithio arferol rhwng 7:30am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am hyd 1pm ddydd Sadwrn. Ni fyddwn yn gweithio yn ystod Gŵyl y Banc Awst.
Os bydd ganddoch unryw gwestiynnau yna cysylltwch gyda ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd ar y dudalen we hon.
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio Wrecsam@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 4638*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol