- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Traphont Abermaw
Traphont Abermaw
AM Y PROSIECT
Penodwyd Griffiths gan Network Rail ym mis Chwefror 2021 er mwyn ymgymryd â gwaith dylunio, gwneuthuro ac adeiladu traphont dur newydd i ddisodli’r draphont bresennol. Gan gydnabod arwyddocâd hanesyddol y draphont, mae’r strwythur newydd yn ddyblygiad tebyg am debyg o’r strwythur presennol. Mae’r draphont yn strwythur rhestredig Gradd II*, sy’n cludo rheilffordd llinell sengl Arfordir Cambria o Gyffordd Dyfi i Bwllheli, ac sy’n cynnwys llwybr cerdded dros aber Mawddach. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu’r draphont wreiddiol yn 1864, a chafodd ei hagor yn swyddogol yn 1867.
Mae’r draphont yn cynnwys dau brif fath o adeiladwaith, rhan bren sy’n cynnwys 113 o fwâu (cwblhawyd y gwaith adnewyddu yn 2021) ac adran fetelaidd, yr elfen sy’n cael ei chwblhau fel rhan o’r contract hwn.
Mae elfen fetelaidd y draphont yn cynnwys 5 bwa unigol. Mae bwâu 1-3 (UB41) yn cynnwys trawstiau dellt hobgefn uwchddaearol, gyda thrawstiau croes dan yr echel a chafnau cludo rheilffordd, mae bwâu 4 a 5 (UB42) yn syml yn cynnwys trawstiau craffrwymo dellt gyda thrawstiau croes dan yr echel a chafnau cludo rheilffordd.
Dros y blynyddoedd, mae’r strwythur metelaidd wedi dioddef erydiad difrifol, gan arwain at golli rhannau o nifer o’r elfennau, yn enwedig y trawstiau dellt hobgefn, a’r gwaith paent yn cael ei ddinistrio.
Mae’r gwaith yn cael ei gynnal mewn dau gam, yn atgyfnerthu a’n adfer y strwythur, cyn cynnal gwaith disodli’r strwythur pont orchuddiol, ac mae’n cynnwys:
- Disodli’r rhwymiad lletraws sydd wedi dod i ddiwedd ei oes
- Disodli’r system baent bresennol
Er mwyn disodli’r bont orchuddiol, mae dull arloesol o adeiladu’n cael ei ddefnyddio, sydd wedi’i ddisgrifio’n gryno isod:
- Mae trawstiau newydd y bont yn cael eu cludo ar drelars rheilffordd i leoliad yr aber, a chânt eu hysgwyddo y tu mewn i drawstiau presennol y bont
- Defnyddir y strwythur newydd i ddal yr hen strwythur wrth iddo gael ei ddinistrio
- Ar ôl disodli’r hen strwythur, defnyddir jaciau hydrolig i jacio’r trawstiau newydd ar wahân i’r lled ofynnol
- Mae dec newydd y bont wedyn yn cael ei gludo i leoliad y draphont lle caiff ei godi o dan y trawstiau a’i osod i’r asgell waelod
- Yn olaf, caiff y strwythur newydd ei gwblhau ei ostwng ar sylfaen y bont newydd osodedig
Gorffenwyd y gwaith yn ddiogel ac o fewn yr amserlen gan ail-agor i wasanaethau trên a cherddwyr ar fore dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 2023.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan prosiect Network Rail:
https://www.networkrail.co.uk/running-the-railway/our-routes/wales/restoring-barmouth-viaduct/
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau ychwanegol am y gwaith hwn, cysylltwch â Network Rail yn uniongyrchol drwy ffonio llinell gymorth 24-awr pwrpasol Network Rail. 03457 11 41 41 neu anfonwch e-bost at crwales@networkrail.co.uk
Fideos prosiect
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio rich.foxhallalungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol