- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Teithio Llesol Cyffordd 18...
Cynllun Teithio Llesol Cyffordd 18 yr A55
TROSOLWG O'R PROSIECT
Mae Griffiths wedi ei benodi gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) i greu Llwybr Teithio Llesol o fynedfa RSPB ar gylchfan y Gyffordd ar gyfer Cyffordd Llandudno ar yr A55 i gylchfan Junction Way ar yr A546 (Ffordd 6G). Bydd y prosiect yn gwella cysylltedd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Bydd gwaith ar y prosiect yn dechrau ddydd Llun 29 Ionawr 2024 a bwriedir ei orffen erbyn dydd Llun 11 Ebrill 2024.
Mae’r cynllun yn cynnwys:
- Lledu’r llwybr cerdded rhwng ochr orllewinol cylchfan Cyffordd 18 yr A55 a’r A546 i ffurfio Llwybr a Rennir am 300m o’r gyffordd sy’n cynnwys mynedfa RSPB Conwy hyd at y groesfan a reolir gan signalau sydd eisoes yn bodoli i’r gogledd o Junction Way.
- Gosod croesfan newydd a reolir gan signalau i’r de o Junction Way, ar draws yr A546
- Lledu’r llwybrau cerdded i’r de o gylchfan Junction Way er mwyn gwella mynediad i gerddwyr tuag at yr archfarchnad a chanolfan hamdden Cyffordd Llandudno
- Gosod ymylon palmant, croesfannau cyffyrddol a chroesfannau rheoledig newydd
- Creu llwybr beicio ar wahân ar draws trosbont cylchfan Cyffordd 18 yr A55
- Gosod arwyddion newydd
- Yr oriau gweithio arferol fydd 08:00 – 17:30 dydd Llun i ddydd Gwener
- Bydd mynediad i’r archfarchnad, y Ganolfan Hamdden a Pharc Hamdden Cyffordd Llandudno yn cael ei gynnal drwy gydol y gwaith.
Nodwch y bydd system unffordd ar waith rhwng cylchfan Tesco a’r gylchfan A55 i gyfeiriad Tesco rhwng 11 Mawrth a fydd yn para am bythefnos.
Gallwch weld map o’r system un ffordd drwy glicio, yma
Sylweddolwn fod hon yn rhan brysur iawn o’r ffordd. Fodd bynnag, er mwyn i ni allu cwblhau’r gwaith yn ddiogel a chyn gynted â phosib, bydd rhaid defnyddio goleuadau traffig dros dro i reoli llif y traffig. Caiff y rhain eu rheoli â llaw yn ystod yr adegau prysuraf.
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio A55Cyffordd.Junction18.ATS@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 2185*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Manylion Cyswllt a sianelau cyfryngau cymdeithasol Traffig Cymru
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol