- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Brook Street Bridge Replacement, Ystrad...
Brook Street Bridge Replacement, Ystrad Rhondda
Am y prosiect
Penodwyd Griffiths yn Brif Gontractwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS RhCT) i ymgymryd â Cham 1 a 2 Pont Stryd y Nant sy’n cynnwys dymchwel ac ailadeiladu’r bont droed bresennol yn Stryd y Nant, Ystrad Rhondda. Mae’r cynlluniau yn cael eu hariannu ar y cyd gan CBS RhCT a Llywodraeth Cymru.
Mae’r bont sydd bellach ar ddiwedd ei hoes ddylunio yn darparu cyswllt pwysig o Ystrad i Heol Nant-y-Gwyddon a hon yn unig sy’n darparu mynediad gyda ramp i blatfform yr orsaf reilffordd tua’r gogledd. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cyswllt coll i’r llwybr teithio llesol ar hyd y dyffryn.
Bydd y bont droed newydd yn: –
- Gwella’r cysylltiad rhwng y ddwy gymuned, Canolfan Chwaraeon y Rhondda a thu hwnt
- Darparu dec ehangach ar gyfer y rampiau o Ystâd Ddiwydiannol Gelli i’r Ganolfan Hamdden a fydd yn cydymffurfio â gofynion y cynllun Teithio Llesol ac yn cysylltu i’r llwybr beicio presennol
- Yn cydymffurfio’n llwyr â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a thrwy hynny’n gwella mynediad i bawb.
- Gorfodi cau’r fynedfa ogleddol i’r platfform tua’r gogledd yn yr orsaf reilffordd
- Creu mynediad newydd gwell a gwastad ger grisiau pont droed yr orsaf reilffordd h.y., bydd y grisiau i fyny i’r platfform yn cael eu tynnu a bydd lefel y ddaear yn cael ei chodi i gwrdd â chefn lefel y platfform (wrth y fynedfa ddeheuol i’r platfform tua’r gogledd)
Mae Cam 2 y cynllun yn golygu amnewid yr holl ddeunydd gwrthlithro ar y rampiau i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Tra’n cau’r bont i unioni, tynnu ac amnewid a disodli’r arwynebedd hwn, byddwn hefyd yn achub ar y cyfle i adnewyddu rhannau eraill o’r bont o ran ei edrychiad cosmetig.
Diweddariadau Rheoli Traffig
Newyddion
-Christmas Period Notice – Bilingual (December 2022)
-Brook Street Temporary Road Closure – Bilingual (November 2022)
-Gelli Industrial Estate Temporary Road Closure – Bilingual (October 2022)
-Full Bridge Closure Letter – Bilingual (August 2022)
-South East Ramp Closure Letter – Bilingual (July 2022)
-Site Clearance Pre-Start Letter (December 2021)
-Resident Night Shift Letter – Site Clearance (January 2022)
Cwrdd a'r Tim
Cysylltu a'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Neil Evans drwy ebostio neil.evans@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio +44 7812 003 047
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Prosiect
Cysylltwch
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol