- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Stryd...

Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Stryd Stephenson
AM Y PROSIECT
Mae cwmni Griffiths wedi’u penodi’n Brif Gontractwr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni ac adeiladu Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Stryd Stephenson yn Llyswyry, Casnewydd.
Mae cartrefi a busnesau yn Llyswyry mewn perygl o ddioddef llifogydd o Afon Wysg yn ystod cyfnodau o law trwm a llanw uchel. Mae cyfleusterau hamdden a seilwaith fel yr A48, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Stadiwm Casnewydd a Pharc y Ddraig, hefyd mewn perygl.
Mae bwnd llifogydd yn bodoli ar hyd Afon Wysg rhwng Stephenson Street a Corporation Road, ond mae’n hen ac nid yw bellach yn addas i’r diben.
Mae llawer o’r busnesau yn yr ystâd ddiwydiannol sydd ar hyd yr afon eisoes yn dioddef llifogydd ar raddfa fach ar dir isel ar hyd glan yr afon – a’r enghraifft enwocaf yw o gyfnod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.Brig y ffurflen
Heb ymyrraeth, mae NRW yn amcangyfrif y gallai llifogydd ddod dros y bwnd presennol ac achosi difrod sylweddol i gartrefi a busnesau yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae’r cynllun yn cynnwys y gwaith a ddangosir isod:
- Codi tir lleol i’r gogledd o Stryd Stephenson yn ogystal â chodi ffyrdd a thirlunio ar Stryd Stephenson
- Codi a gwella’r arglawdd rhag llifogydd presennol ar hyd ffin orllewinol Parc y Coronation
- Adeiladu wal orlifo ac arglawdd
- Adeiladu 0.7km o ffordd lliniaru llifogydd yn cysylltu East Bank Road a Corporation Road, gyda draeniau cysylltiedig, pwyntiau mynediad a mân addasiadau i East Bank Road
- Waliau llifogydd concrit wedi’u hatgyfnerthu a darn byr o fwnd llifogydd o fewn Ystâd Ddiwydiannol Felnex
- Wal goncrit rhag llifogydd wedi’i hatgyfnerthu ger Pye Corner
- Wal goncrit rhag llifogydd wedi’i hatgyfnerthu a thrac mynediad yn Nash
- Giât llifogydd i drosbont rheilffordd Corporation Road
- Falfiau fflap llanw nad ydynt yn cau yn ôl a gwelliannau cwlfert i arglawdd Network Rail
- Gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru a thirlunio i Barc y Coronation
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun yn lleihau’r perygl o lifogydd i dros 2000 eiddo, gan gynnwys yr ystâd ddiwydiannol sy’n cyfrannu’n allweddol at gyflogaeth ac economi Casnewydd.
Am rhagor o wybodaeth, ewch i: Cynllun Llifogydd Stryd Stephenson – Natural Resources Wales Citizen Space – Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)