- Home
- /
- Prosiectau
- /
- Cynllun Teithio Llesol Caergybi i...

Cynllun Teithio Llesol Caergybi i Fae Trearddur
AM Y PROSIECT
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi penodi Griffiths i greu Llwybr Teithio Llesol rhwng Parc Manwerthu Penrhos a Bae Trearddur fel rhan o Metro Gogledd Cymru. Ariennir y prosiect gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac fe’i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru.
Mae’r llwybr y bwriedir ei wella yn arwain o Gylchfan Tesco (A5) yng Nghaergybi trwy Barc Cybi ac ymlaen wedyn i Fae Trearddur, a bydd yn creu cysylltiadau hollbwysig â Chanolfan Hamdden Caergybi, Parc Manwerthu Penrhos a Pharc Cybi. Nid yw’r rhan wrth drosbont Cyffordd 2 yr A55 wedi’i chynnwys o fewn cwmpas y prosiect hwn a bydd y rhan honno’n cael ei datblygu mewn cynllun diweddarach.
Mae’r safle’n cynnwys:
- Ffordd Llundain yr A5 (wrth y gyffordd â’r A5153)
- Yr A5153 (rhwng Canolfan Hamdden Caergybi a Pharc Manwerthu Penrhos)
- Gwelliannau i ffordd fynediad y Ganolfan Hamdden
- Llwybr oddi ar y gerbytffordd trwy ddatblygiad Parc Cybi
- Lôn Trefignath
- Lôn Towyn Capel
- Y B4545 a Lôn Isallt ym Mae Trearddur
Dechreuodd y gwaith ddydd Llun 19 Chwefror 2024 wrth gylchfan Tesco Parc Manwerthu Penrhos a bydd yn symud yn ei flaen i gyfeiriad Bae Trearddur. Yr oriau gwaith arferol fydd 7.30am – 6pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Nid ydym yn bwriadu defnyddio goleuadau traffig ar benwythnosau. Ni fyddwn yn gweithio yn ystod Gwyliau Banc y Pasg.
Bydd modd mynd i mewn ac allan o’r holl siopau manwerthu a Chanolfan Hamdden Caergybi drwy gydol y cyfnod adeiladu a bydd yr holl fusnesau ar agor fel arfer.
Rydym wedi ymweld â’r holl siopau manwerthu a’r busnesau ym Mharc Manwerthu Penrhos i esbonio’r gwaith, a byddwn yn cysylltu â phreswylwyr a busnesau mewn ardaloedd eraill i roi gwybodaeth hollbwysig iddynt cyn dechrau gweithio yn eu hardaloedd.
Sylweddolwn fod y ffordd hon yn brysur. Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r gwaith mor ddiogel a chyflym â phosibl, bydd yn ofynnol inni ddefnyddio goleuadau traffig dros dro. Yn ystod cyfnodau prysur iawn, bydd y goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw.
Dyma’r gwahanol gamau sy’n perthyn i’r gwaith:
Cam 1 – 22 Chwefror 2024 – 15 Mawrth 2024
Wrth gylchfan Tesco. Ni fydd angen goleuadau traffig ar gyfer y cam hwn.
Cam 2 – 18 Mawrth 2024 – 28 Mawrth 2024
Byddwn yn gweithio o gylchfan Morrions at gylchfan Cyffordd 2 yr A55. Mae’n ofynnol i ni gael goleuadau 3 ffordd ar gyfer y cam hwn, a byddant yn cael eu rheoli â llaw yn ystod cyfnodau prysur iawn.
Cam 3 – 2 Ebrill 2024 – 10 Ebrill 2024
Byddwn yn gweithio rhwng y gylchfan wrth ymyl KFC a chylchfan Morrisons. Bydd yn ofynnol cael goleuadau traffig 4 ffordd ar gyfer y cam hwn, a byddant yn cael eu rheoli â llaw yn ystod cyfnodau prysur iawn.
Cam 4 – 11 Ebrill 2024 – 23 Ebrill 2024
Yn ystod cam olaf y gwaith wrth Barc Penrhos, byddwn yn gweithio rhwng cylchfan Cyffordd 2 yr A55 a chylchfan Morrisons. Bydd yn ofynnol cael goleuadau traffig 4 ffordd ac yna goleuadau traffig 3 ffordd ar gyfer y cam hwn.
Bydd modd mynd i mewn ac allan o’r holl siopau manwerthu a Chanolfan Hamdden Caergybi drwy gydol y cyfnod adeiladu a bydd yr holl fusnesau ar agor fel arfer.
Cyn i’r gwaith ddechrau yng nghyffiniau’r Ganolfan Hamdden a Bae Trearddur, byddwn yn cysylltu â phreswylwyr a busnesau perthnasol i roi gwybodaeth hollbwysig iddynt.
Sylweddolwn fod y ffordd hon yn brysur. Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r gwaith yn ddiogel ac yn effeithlon, ac er mwyn adeiladu ffordd o’r radd flaenaf, bydd yn ofynnol inni ddefnyddio goleuadau traffig dros dro i reoli llif y traffig. Yn ystod cyfnodau prysur iawn, bydd y goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw.
Os hoffech gysylltu â ni, defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dudalen we hon.
Cylchlythyrau’r Prosiect
Bydd diweddariadau am y prosiect yn ymddangos yma.
Bydd unryw fideos o'r prosiect yn ymddangos fan hyn
Diweddariadau traffig
Cysylltwch â'r Safle
Gallwch gysylltu gyda Swyddog Cyswllt y Cyhoedd y prosiect – Rich Foxhall drwy ebostio nwmetrogc@alungriffiths.co.uk neu drwy ffonio 0330 041 4638*
*Codir cyfraddau galwadau cenedlaethol i’r rhif hwn a chânt eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol.
Os na fydd yn bosibl iddo ateb eich galwad ar y pryd, gadewch neges a bydd yn cysylltu gyda chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cysylltwch
â’r Prosiect
*Codir galwadau i’r rhif hwn ar gyfraddau galwadau cenedlaethol ac maent wedi’u cynnwys mewn cynlluniau munud cynhwysol o linellau tir a ffonau symudol