Mae cwmni Griffiths wedi’i benodi’n Brif Gontractwr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS RhCT) i wneud y gwaith deuoli ar yr A4119 Coed-elái.
Mae’r A4119 yn goridor trafnidiaeth strategol sy’n cysylltu Rhondda Fawr â Llantrisant, Tonysguboriau ac ymlaen i’r M4 ar gyffordd 34. Ar hyn o bryd, mae’r llwybr yn ffordd ddeuol o’r M4 yn y de, hyd at Gylchfan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a elwir yn lleol yn Ynysmaerdy. O’r pwynt hwn i’r gogledd, mae’n ffordd unffrwd sy’n dioddef o dagfeydd traffig ar adegau prysur.
Bydd y cynllun newydd yn darparu ffordd ddeuol 1.5km o hyd, 2 ffordd, ar hyd yr A4119 Coed-elái rhwng Cylchfan Pencadlys Gwasanaeth Tân De Cymru a Chylchfan Coed-elái, a fydd yn disodli’r ffordd unffrwd 2 ffordd bresennol, gan felly gynyddu capasiti’r ffordd a lleihau tagfeydd.
Bydd llwybr cymunedol a rennir 3 metr o led yn dilyn yr A4119 Coed-elái ar hyd gorllewin y ffordd gerbydau sy’n cysylltu cylchfan Parc Busnes Llantrisant â’r llwybr beicio presennol sy’n dod allan ar Gylchfan Coed-elái. Bydd pont teithio llesol yn cael ei gosod i’r de o Gylchfan Coed-elái er mwyn galluogi cerddwyr a beicwyr i groesi o’r llwybr cymunedol a rennir newydd i Goed Elái. Bydd y bont droed a’r llwybr cymunedol a rennir yn cefnogi cerdded a beicio i’r gwaith ar gyfer gweithwyr lleol y datblygiad newydd yng Nghoed Elái.
Mae’r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor RhCT a Chronfa Ffyniant Bro yr Adran Trafnidiaeth gyda chyllid blaenorol gan Gronfa Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.